New appointment in Bro Cybi

0
3190
Reverend Neil Ridings -Mae'r llun yn dangos y Parchedig Neil Ridings
Reverend Neil Ridings -Mae'r llun yn dangos y Parchedig Neil Ridings
The Bishop of Bangor – the Right Reverend Andy John – is pleased to announce the appointment of the Reverend Neil Ridings as Associate Vicar in the Bro Cybi Ministry Area. Bro Cybi serves to communities of Holyhead and Holy Island and Neil will be part of the team which leads the mission and ministry there.
 
Reverend Neil Ridings -Mae'r llun yn dangos y Parchedig Neil Ridings
Reverend Neil Ridings -Mae’r llun yn dangos y Parchedig Neil Ridings

Neil is currently the Ministry Area Leader and Vicar of Bro Cwyfan, which serves to communities around Valley, Bryngwran, Bodedern, Llanfachraeth, Llantrisant, Rhosneigr  and Llanfaelog.

 
Neil is well known to the people of Bro Cybi because he was previously a curate there.
 
Looking forward to his return to Bro Cybi, Neil said, ‘It is a privilege to have been Vicar of Bro Cwyfan working alongside the ministry team, the different congregations and communities. Saying goodbye is never easy but I take with me many happy memories for which I am truly grateful. As I become Associate Vicar I look forward to working with the people of Bro Cybi as we seek to share in God’s life and play our part in His work in the world.‘
 
Welcoming Neil back to Holyhead and Holy Island, the Ministry Area Leader and Vicar of Bro Cybi, Archdeacon Andy Herrick said, ‘Neil will be a huge asset to the team in Bro Cybi and will help us realise some of the huge potential in and around Holyhead. I’m looking forward to working alongside Neil as he brings skills, gifts and experience that will help our churches thrive and grow, and enable us to be pioneers in new and exciting ways of being church.’
 
Commenting on Neil’s new role, the Bishop of Bangor said, ‘Neil is a conscientious and capable priest whose gifts are well suited to the needs of Bro Cybi. I’m sure that his ministry will complement the ministry of Archdeacon Andy and the rest of the Ministry Team. It is an exciting time to be part of the Church community in Bro Cybi.
 
Please pray for Neil, Kay and their family in their new ministry, as well as for the people of Bro Cybi and Bro Cwyfan.’
 
It is expected that Neil will begin his ministry in Bro Cybi later in the summer, when there will be a special service to celebrate the beginning of his new ministry.
Penodiad newydd ym Mro Cybi
 
Mae Esgob Bangor – y Gwir Barchedig Andy John – yn falch o allu cyhoeddi penodiad y Parchedig Neil Ridings yn Ficer ar y Cyd yn Ardal Weinidogaeth Bro Cybi. Mae Bro Cybi’n gwasanaethu cymunedau Caergybi ac Ynys Cybi ac fe fydd Neil yn rhan o’r tîm sy’n arwain cenhadaeth a gweinidogaeth yno.
 
Ar hyn o bryd, Neil ydy Arweinydd Ardal Weinidogaeth a Ficer Bro Cwyfan, sy’n gwasanaethu cymunedau ynghylch Y Fali, Bryngwran, Bodedern, Llanfachraeth, Llantrisant, Rhosneigr a Llanfaelog.
 
Mae Neil yn adnabyddus iawn i bobl Bro Cybi, gan y bu’n giwrad yno’n flaenorol.
 
Wrth edrych ymlaen at ddychwelyd yno, meddai Neil, ‘Mae hi’n fraint i fod wedi gwasanaethu fel Ficer Bro Cwyfan, yn gweithio ochr yn ochr â’r tîm gweinidogaethu, y gwahanol gynulleidfaoedd a chymunedau. Dydy ffarwelio byth yn beth hawdd ond fe fydda i’n gadael gyda llawer o atgofion hapus ac yn ddiolchgar tu hwnt am hynny. Wrth imi ddod yn Ficer ar y Cyd, dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda phobl Bro Cybi wrth inni geisio rhannu ym mywyd Duw a chwarae’n rhan yn Ei waith yn y byd.‘
 
Wrth groesawu Neil yn ôl i Gaergybi ac Ynys Cybi, dywedodd Arweinydd Ardal Weinidogaeth a Ficer Bro Cybi, Archddiacon Andy Herrick, ‘Fe fydd Neil yn gaffaeliad mawr i’r tîm ym Mro Cybi ac fe fydd yn gymorth inni wireddu rhywfaint o’r potensial sylweddol sydd yn ac o amgylch Caergybi. Dwi’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â Neil wrth iddo ddod â sgiliau, doniau a phrofiad a fydd o gymorth i’n heglwysi ffynnu a thyfu, a’n galluogi i fod yn arloeswyr mewn ffyrdd newydd a chyffrous o fod yn eglwys.’
 
Sylw Esgob Bangor ar rôl newydd Neil oedd, ‘Mae Neil yn offeiriad cydwybodol a galluog sy’n meddu ar ddoniau addas iawn i anghenion Bro Cybi. Dwi’n siŵr y bydd ei weinidogaeth yn cydategu gweinidogaeth Archddiacon Andy a gweddill y Tîm Gweinidogaethu. Mae hi’n gyfnod cyffrous i fod yn rhan o’r gymuned Eglwysig ym Mro Cybi.
 
Gweddïwch dros Neil, Kay a’r teulu  yn eu gweinidogaeth newydd, yn ogystal â phobl Bro Cybi a Bro Cwyfan.’
 
Disgwylir i Neil ddechrau ar ei weinidogaeth ym Mro Cybi yn ddiweddarach yn yr haf, pryd y cynhelir gwasanaeth arbennig i ddathlu dechrau ei weinidogaeth newydd.